Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 13 Mawrth 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:42 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Joyce Watson Lindsay Whittle Eluned Parrott |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mohammad Asghar Matthew Bumford Jonathan Edwards Alan Hamer, Criced Morgannwg Peter Hybart, Criced Cymru Huw Jones, Chwaraeon Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.33, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 11 munud nes bod cworwm yn bresennol
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Galwodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cyadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
Cafodd Joyce Watson ei henwebu gan Lindsay Whittle; nid oedd dim enwebiadau eraill. Cafodd Joyce Watson ei hethol yn Gadeirydd.
Cafwyd ymddiheuriadau gan William Powell, Bethan Jenkins a Russell George. Roedd Eluned Parrott yn dirprwyo ar ran William Powell a Lindsay Whittle yn dirprwyo ar ran Bethan Jenkins.
2. Trafod y dystiolaeth lafar a gyflwynwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 7 Chwefror 2012
2.1P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau
2.2
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a gafodd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cytunodd y Pwyllgor mai pob awdurdod lleol yn unigol ddylai benderfynu ynghylch ffilmio cyfarfodydd cynghorau ac, er y dylid annog hynny, ni ddylai’r Gweinidog ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ffilmio cyfarfodydd.
O gofio datganiadau’r Gweinidog ei fod yn cefnogi’r syniad o broses strwythuredig i awdurdodau lleol gynnal eu cyfarfodydd ond nad oes ganddo unrhyw fwriad o orfodi cynghorau i wneud hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
2.3P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a gafwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y ddeiseb hon.
O gofio datganiad y Gweinidog, nad yw’n fwriad ganddo ymyrryd ym mhrotocolau busnes awdurdodau lleol; bod system Rhyddid Gwybodaeth eisoes ar waith; a’r nifer fawr o gofnodion y byddai angen i awdurdodau lleol eu cyhoeddi, cytunodd y Pwyllgor y dylid cau’r ddeiseb.
3. P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - trafod ymweliad y Pwyllgor â'r safle
Gan nad oedd llawer o’r Aelodau a aeth ar ymweliad safle â Phorth Tywyn gyda’r Pwyllgor, yn bresennol yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth sylweddol am yr ymweliad nes y byddai’r Aelodau hynny’n bresennol.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water i gyflwyno tystiolaeth lafar mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
4. P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod - Trafod yr Ymweliadau â'r Safle a'r Dystiolaeth a Gyflwynwyd ar 28 Chwefror
Gan nad oedd llawer o’r Aelodau a aeth ar ymweliadsafle â ffermydd gwynt yn Sir Gaerfyrddin gyda’r Pwyllgor, yn bresennol yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r eitem nes y byddai’r Aelodau’n bresennol a bod ymatebion i lythyrau’r Pwyllgor ar y mater wedi cael eu derbyn.
5. Deisebau newydd
5.1P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried cymryd camau pellach.
5.2P-04-372 Sicrhau bod mwy o Doiledau Merched mewn Lleoliadau Adloniant
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried cymryd camau pellach.
5.3P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried cymryd camau pellach.
5.4P-04-374 Cadw cŵn ar dennyn bob amser mewn mannau cyhoeddus
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried vymryd camau pellach.
5.5P-04-375 Rhoi Terfyn ar System Eithrio ar gyfer Rhoi Organnau
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf.
Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog a chyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a fydd yn craffu ar y Bil pan gaiff ei gyflwyno.
5.6P-04-376 Aildrefnu Addysg ym Mhowys
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried cymryd camau pellach.
5.7P-04-377 Parhau i gael Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog cyn ystyried cymryd camau pellach.
6. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
6.1P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.
O gofio’r wybodaeth a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r nifer cymharol isel o ymatebion a gafwyd i’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
6.2P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Geisio cael amserlen ddangosol ar gyfer cyhoeddi cynllun cyflenwi lleol Bwrdd Addysg Iechyd Powys;
Aros am adroddiad o gynnyd gan Brif Weithredwr Bwrdd Addysg Iechyd Powys unwaith y caiff y cynllun cyflenwi lleol ei gyhoeddi.
6.3P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Gyfeirio pob gwybodaeth a gohebiaeth ynghylch y ddeiseb at ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i bolisi ar amddiffyn rhag yr haul;
Cau’r ddeiseb.
6.4P-04-342 Nyrsys MS
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i anfon gohebiaeth gan y Gweinidog at y deisebydd i gael ei sylwadau.
6.5P-03-236 Siarter i wyrion ac wyresau
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wneud cais am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ddulliau pontio’r cenedlaethau a deddfwriaeth er mwyn gallu ei anfon at y deisebydd i gael ei sylwadau.
6.6P-04-339 Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cwn Bach yn Ne-Orllewin Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wneud cais am amserlen ddangosol ar gyfer datblygu rheoliadau o dan y Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid gyda'r bwriad o annog y deisebydd i gymryd rhan mewn unrhyw broses ymgynghori.
7. P-04-335 Sefydlu Tîm Criced i Gymru - Trafodaeth
Atebodd y tyst gwestiynau gan y Aelodau’r Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at Cricket Scotland a Cricket Ireland ar y pwnc;
Drafod y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod ar 27 Mawrth.
8. Cynnig i gael sesiwn breifat o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ii) i drafod P-04-358 Ailgyflwyno Cymorth Cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig
Cafodd Eitem 8 ei thynnu oddi ar yr agenda gan fod y grŵp ymgyrchu a gyflwynodd y ddeiseb wedi chwalu.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.